Dyma sgyrsiau'r dosbarth Bac Eidaleg - roeddent yn chwarae rôl yn y bwyty rhwng cliente (cwsmer) a cameriere (gweinydd/es). Acenion da iawn, Blwyddyn 12! Cymerwch ofal gyda 'una tavola' (bwrdd), cofiwch mai 'TAH-vola' yw'r pwyslais cywir (nid 'ta-VO-la'). Buon lavoro! (Gwaith da!)
Shannon e Chris
Mandy e Hannah
Robin e Dafydd
Hanna e Manon
Alex e Conor
Cerian e Bethan (classe di 2012)
Le canzone di giovedì - Caneuon dydd Iau
Dyma'r 3 cân wnaethon ni wrando arnynt ar ddydd Iau - caneuon gan Negramaro, Chiara a Marco Mengoni. Mwynhewch!
Negramaro - Sing-hiozzo (Llef)
Chiara - Mille passi (Mil o gamau)
Marco Mengoni - Pronto a correre (Barod i redeg)
Tiziano Ferro
Canwr adnabyddus a llwyddianus arall yw Tiziano Ferro. Mae wedi bod yn canu ers rhyw 10 mlynedd a wedi gwneud 5 albwm hyd yma. Mae wedi datblygu o fod yn ganwr RnB i fod yn ganwr pop yn bennaf. Dyma'r caneuon wnaethon ni wrando arnynt yn y dosbarth. Beth yw eich barn chi?
Sere Nere (Nosweithiau duon) - Cân am y nosweithiau duon mae'n dioddef ers ddiwedd perthynas. Roedd y gân yma'n Rhif 1 yn yr Eidal am 9 wythnos yn 2003!
Non me lo so spiegare (Fedra i ddim ei esbonio i mi fy hun) - Cân arall am ddiwedd perthynas a sut mae popeth yn ei atgoffa am ei gariad
La differenza tra me e te (Y gwahaniaeth rhyngddot ti a mi) - Cân sy'n cwestiynu a ddylai barhau i weld rhywun am eu bod mor wahanol
Ti voglio bene (Rwy'n dy garu - defnyddio gyda ffrindiau a theulu) - Cafodd Tiziano gwympo mas mawr gyda ffrind a'r gân chwerw iawn yma yw'r canlyniad. Mae'n dechrau gyda'r geiriau 'Vorrei ringraziarti, vorrei stringerti alla gola' - 'Hoffwn dy ddiolch, hoffwn dy dagu' ac yn gorffen gyda'r geiriau 'Non sei più mio amico' - 'Dwyt ti ddim yn ffrind i mi rhagor'... Mae'r fideo yn ceisio cyfleu y dolur mae'r cwympo mas yma wedi cael arno.
Jovanotti
Mae Jovanotti yn ganwr a rapiwr adnabyddus iawn yn yr Eidal. Gan ei fod wedi bod yn canu ers yr 80au hwyr, mae nifer fawr o'i ganeuon i'w cael ar youtube a safleoedd tebyg, felly os ydych yn hoffi'r caneuon yma gallwch yn hawdd chwilio am ei ganeuon eraill. Mae'n adnabyddus am arbrofi gyda gwahanol steiliau cerddorol, felly fe welwch ganeuon rap, caneuon cariad, caneuon yn defnyddio rhythmau Affricanaidd, yn canu gyda cerddorfa ac yn y blaen.
Dyma'r tri cân wnaethon ni wrando arnynt yn y dosbarth. P'un yw eich ffefryn?
Tutto l'amore che ho (Yr holl gariad sydd gennyf) - Cân a fideo sy'n ceisio cyfleu'r syniad y byddai Jovanotti yn medru goresgyn popeth o ganlyniad i'r cariad mae'n ei deimlo
Ti porto via con me (Rwy'n dy gymryd i ffwrdd gyda mi) - Cân orfoleddus am sut mae cerddoriaeth da yn medru gwneud i chi deimlo'n wych! 'Ti porto via con me, in questa notte fantastica!' - 'Rwy'n dy gymryd i ffwrdd gyda mi ar y noson wych yma!'
Un'illusione (Rhith / Hudolaeth) - Cân ramantus iawn, gyda Jovanotti yn esbonio ei fod yn teimlo bron wedi ei hudolu gan ei gariad. Mae'n gorffen gyda'r geiriau 'Dimmi che non è tutto un'illusione...' - 'Dyweda wrtha i nad yw hyn i gyd yn rhith...'
Cofiwch bod deunyddiau ar gyfer dysgu Eidaleg (yn ogystal â Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg!) ar safle Linguascope! Dyma'r ddolen ar gyfer cael mynediad i'r safle. Cofiwch fod angen yr Enw Defnyddiwr a'r Cyfrinair a roddodd eich athrawes i chi. Mae Linguascope yn ffordd hwylus o ddysgu iaith newydd felly cofiwch ymweld â'r safle pob hyn a hyn i chwarae'r gemau! http://www.linguascope.com/
Cwrs BBC: 'Talk Italian'
Dyma ddolen i'r fideos BBC a ddefnyddiom yn ystod ein diwrnod cyntaf o'r cwrs Eidaleg. Cyfarchion
Dysgu Eidaleg yn annibynnol
Dyma gyfres o ddoleni sy'n eich arwain at wahanol adnoddau ar gyfer dysgu ychydig o Eidaleg yn eich amser rhydd, y tu allan i'r Clwb. Mae nifer o wahanol ddulliau o ddysgu i'w cael, o ddysgu trwy ddilyn antur (La mappa misteriosa), i ddysgu trwy wrando ar gyfres o bodcastiau 5 munud o hyd (My Daily Phrase: Italian), i ddysgu gan ddefnyddio cwrs ar-lein (Italian Steps), i ddysgu trwy chwarae gemau rhyng-weithiol (Languages Online). Cofiwch hefyd bod deunyddiau Eidaleg ar Linguascope (dolen ar waelod y dudalen yma!). Languages Online La mappa misteriosa My Daily Phrase
Vokis y dosbarth Bac 2012
Dyma'r vokis wnaeth dosbarth Blwyddyn 12 greu ar ddiwedd eu 4 diwrnod o Eidaleg, gan roi popeth maent wedi dysgu at ei gilydd i wneud cyflwyniad personol. Mwynhewch wrando arnynt a grazie, anno dodici, per quattro giorni divertenti! :)
Fratelli d'Italia
Yn arbennig i'r dosbarth Bac Eidaleg!
Tutti parlano italiano!
A ydych chi'n ymwybodol eich bod yn barod yn defnyddio sawl gair Eidaleg yn eich sgyrsiau o ddydd i ddydd? Dyma ddolen at flog sy'n dangos i chi ei fod yn wir!
Dyma ddwy fideo o gân adnabyddus yn yr Eidal, sef 'Per te' ('i ti' neu 'ar dy gyfer di'). Jovanotti, un o ganwyr a rapwyr mwyaf enwog yr Eidal sy'n canu, ac mi ysgrifenodd y gân ar gyfer ei ferch fach newydd anedig. Mae'n gân hapus ac annwyl iawn, gyda Jovanotti yn canu i'w blentyn 'È per te, ogni cosa che c'è' ('mae ar dy gyfer di, popeth sydd i'w gael'). Y fideo gyntaf yw'r fideo swyddogol sy'n cydfynd gyda'r gân; mae'r ail yn fersiwn sy'n cynnwys y geiriau a lluniau sydd yn esbonio'r geiriau.
Mwynhewch!
Benvenuti! Croeso!
In ristorante - Dosbarth Bac 2013
Dyma sgyrsiau'r dosbarth Bac Eidaleg - roeddent yn chwarae rôl yn y bwyty rhwng cliente (cwsmer) a cameriere (gweinydd/es). Acenion da iawn, Blwyddyn 12! Cymerwch ofal gyda 'una tavola' (bwrdd), cofiwch mai 'TAH-vola' yw'r pwyslais cywir (nid 'ta-VO-la'). Buon lavoro! (Gwaith da!)Shannon e Chris
Mandy e Hannah
Robin e Dafydd
Hanna e Manon
Alex e Conor
Cerian e Bethan (classe di 2012)
Le canzone di giovedì - Caneuon dydd Iau
Dyma'r 3 cân wnaethon ni wrando arnynt ar ddydd Iau - caneuon gan Negramaro, Chiara a Marco Mengoni. Mwynhewch!Negramaro - Sing-hiozzo (Llef)
Chiara - Mille passi (Mil o gamau)
Marco Mengoni - Pronto a correre (Barod i redeg)
Tiziano Ferro
Canwr adnabyddus a llwyddianus arall yw Tiziano Ferro. Mae wedi bod yn canu ers rhyw 10 mlynedd a wedi gwneud 5 albwm hyd yma. Mae wedi datblygu o fod yn ganwr RnB i fod yn ganwr pop yn bennaf. Dyma'r caneuon wnaethon ni wrando arnynt yn y dosbarth. Beth yw eich barn chi?Sere Nere (Nosweithiau duon) - Cân am y nosweithiau duon mae'n dioddef ers ddiwedd perthynas. Roedd y gân yma'n Rhif 1 yn yr Eidal am 9 wythnos yn 2003!
Non me lo so spiegare (Fedra i ddim ei esbonio i mi fy hun) - Cân arall am ddiwedd perthynas a sut mae popeth yn ei atgoffa am ei gariad
La differenza tra me e te (Y gwahaniaeth rhyngddot ti a mi) - Cân sy'n cwestiynu a ddylai barhau i weld rhywun am eu bod mor wahanol
Ti voglio bene (Rwy'n dy garu - defnyddio gyda ffrindiau a theulu) - Cafodd Tiziano gwympo mas mawr gyda ffrind a'r gân chwerw iawn yma yw'r canlyniad. Mae'n dechrau gyda'r geiriau 'Vorrei ringraziarti, vorrei stringerti alla gola' - 'Hoffwn dy ddiolch, hoffwn dy dagu' ac yn gorffen gyda'r geiriau 'Non sei più mio amico' - 'Dwyt ti ddim yn ffrind i mi rhagor'... Mae'r fideo yn ceisio cyfleu y dolur mae'r cwympo mas yma wedi cael arno.
Jovanotti
Mae Jovanotti yn ganwr a rapiwr adnabyddus iawn yn yr Eidal. Gan ei fod wedi bod yn canu ers yr 80au hwyr, mae nifer fawr o'i ganeuon i'w cael ar youtube a safleoedd tebyg, felly os ydych yn hoffi'r caneuon yma gallwch yn hawdd chwilio am ei ganeuon eraill. Mae'n adnabyddus am arbrofi gyda gwahanol steiliau cerddorol, felly fe welwch ganeuon rap, caneuon cariad, caneuon yn defnyddio rhythmau Affricanaidd, yn canu gyda cerddorfa ac yn y blaen.Dyma ddolen i erthygl fer a fideo amdano ar safle's BBC:
Jovanotti in New York: Italy's first rapper moves to the home of hip hop
Dyma'r tri cân wnaethon ni wrando arnynt yn y dosbarth. P'un yw eich ffefryn?
Tutto l'amore che ho (Yr holl gariad sydd gennyf) - Cân a fideo sy'n ceisio cyfleu'r syniad y byddai Jovanotti yn medru goresgyn popeth o ganlyniad i'r cariad mae'n ei deimlo
Ti porto via con me (Rwy'n dy gymryd i ffwrdd gyda mi) - Cân orfoleddus am sut mae cerddoriaeth da yn medru gwneud i chi deimlo'n wych! 'Ti porto via con me, in questa notte fantastica!' - 'Rwy'n dy gymryd i ffwrdd gyda mi ar y noson wych yma!'
Un'illusione (Rhith / Hudolaeth) - Cân ramantus iawn, gyda Jovanotti yn esbonio ei fod yn teimlo bron wedi ei hudolu gan ei gariad. Mae'n gorffen gyda'r geiriau 'Dimmi che non è tutto un'illusione...' - 'Dyweda wrtha i nad yw hyn i gyd yn rhith...'
La 'Ndrangheta - Mafia Calabria yn y newyddion
Erthygl ddiddorol ar yr 'Ndrangheta.'Ndrangheta: Exploring the Mafia's Underground World
Linguascope
Cofiwch bod deunyddiau ar gyfer dysgu Eidaleg (yn ogystal â Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg!) ar safle Linguascope! Dyma'r ddolen ar gyfer cael mynediad i'r safle. Cofiwch fod angen yr Enw Defnyddiwr a'r Cyfrinair a roddodd eich athrawes i chi. Mae Linguascope yn ffordd hwylus o ddysgu iaith newydd felly cofiwch ymweld â'r safle pob hyn a hyn i chwarae'r gemau!http://www.linguascope.com/
Cwrs BBC: 'Talk Italian'
Dyma ddolen i'r fideos BBC a ddefnyddiom yn ystod ein diwrnod cyntaf o'r cwrs Eidaleg.Cyfarchion
Dysgu Eidaleg yn annibynnol
Dyma gyfres o ddoleni sy'n eich arwain at wahanol adnoddau ar gyfer dysgu ychydig o Eidaleg yn eich amser rhydd, y tu allan i'r Clwb. Mae nifer o wahanol ddulliau o ddysgu i'w cael, o ddysgu trwy ddilyn antur (La mappa misteriosa), i ddysgu trwy wrando ar gyfres o bodcastiau 5 munud o hyd (My Daily Phrase: Italian), i ddysgu gan ddefnyddio cwrs ar-lein (Italian Steps), i ddysgu trwy chwarae gemau rhyng-weithiol (Languages Online). Cofiwch hefyd bod deunyddiau Eidaleg ar Linguascope (dolen ar waelod y dudalen yma!).Languages Online
La mappa misteriosa
My Daily Phrase
Vokis y dosbarth Bac 2012
Dyma'r vokis wnaeth dosbarth Blwyddyn 12 greu ar ddiwedd eu 4 diwrnod o Eidaleg, gan roi popeth maent wedi dysgu at ei gilydd i wneud cyflwyniad personol. Mwynhewch wrando arnynt a grazie, anno dodici, per quattro giorni divertenti! :)Fratelli d'Italia
Yn arbennig i'r dosbarth Bac Eidaleg!Tutti parlano italiano!
A ydych chi'n ymwybodol eich bod yn barod yn defnyddio sawl gair Eidaleg yn eich sgyrsiau o ddydd i ddydd? Dyma ddolen at flog sy'n dangos i chi ei fod yn wir!Tutti parlano italiano!
Jovanotti: Per te
Dyma ddwy fideo o gân adnabyddus yn yr Eidal, sef 'Per te' ('i ti' neu 'ar dy gyfer di'). Jovanotti, un o ganwyr a rapwyr mwyaf enwog yr Eidal sy'n canu, ac mi ysgrifenodd y gân ar gyfer ei ferch fach newydd anedig. Mae'n gân hapus ac annwyl iawn, gyda Jovanotti yn canu i'w blentyn 'È per te, ogni cosa che c'è' ('mae ar dy gyfer di, popeth sydd i'w gael'). Y fideo gyntaf yw'r fideo swyddogol sy'n cydfynd gyda'r gân; mae'r ail yn fersiwn sy'n cynnwys y geiriau a lluniau sydd yn esbonio'r geiriau.Mwynhewch!